Bydd 26 o brosiectau sydd yn hybu’r Gymraeg trwy dechnoleg a’r gymuned, yn derbyn gwerth £425,000 o grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Daw’r arian o gynllun ‘Grant Cymraeg 2050’ sydd yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yna filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ymysg y grwpiau fydd yn derbyn grantiau mae stiwdio sy’n datblygu gêm gyfrifiadurol Gymraeg , a mudiad sy’n bwriadu dysgu codio i blant  trwy gyfrwng y Gymraeg.

£300,000 oedd swm gwreiddiol y gronfa ond cafodd ei gynyddu oherwydd “safon eithriadol y ceisiadau a ddaeth i law”.

Magu hyder

“Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol,” meddai Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan.

“Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol.”

Rhai o’r prosiectau

  • Menter Caerdydd, £15,820.00: I’w gyfrannu at gynnwys Wici Caerdydd
  • Cyngor Gwynedd, £20,000.00: I’w gyfrannu at brosiect rhith-realiti ddigidol
  • Cered, £13,400.00: I’w gyfrannu at beilot gwersi codio Cymraeg
  • Quantom Soup Studios, £19,650.00: I ddatblygu gêm gyfrifiadurol Gymraeg