Mae Heddlu Gwent wedi lansio cynllun peilot sy’n caniatáu pobol i ddiweddaru digwyddiadau’n gyson oddi ar eu ffonau symudol ynghanol argyfwng.

 

Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath i gael ei dreialu gan heddluoedd gwledydd Prydain, ac mae’n cael ei alw’n 999eye.

 

Mi fydd y cyhoedd yn gallu anfon ffrwd byw o’r digwyddiadau at swyddfa reoli’r heddlu drwy ffonio 999.

 

Elfen GPS

 

“Yn ogystal â thrawsnewid y modd y mae galwadau 999 yn cael eu trin, mi fydd 999eye yn darparu tystiolaeth allweddol i gefnogi ymchwiliadau sydd ar y gweill, yn dod â buddion sylweddol i swyddogion, y rhai sy’n ffonio 999 ac i’r cyhoedd,” meddai Ian Roberts, Arolygydd gyda Heddlu Gwent.

 

Mae elfen GPS ynghlwm â’r dechnoleg hefyd fydd yn helpu’r swyddogion i weld union leoliad y digwyddiadau.

 

Mi fydd y cynllun yn parhau am ddeufis, ac mi gafodd ei ddatblygu’n wreiddiol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Canolbarth Lloegr.