Mae deiseb sy’n galw am gau’r sŵ yn Borth wedi llwyddo i gael mwy na 2,600 o lofnodion mewn 24 awr.

 

Mae’r ddeiseb wedi’i sefydlu gan Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig ac yn apelio ar Gyngor Sir Ceredigion i gau Borth Wild Animal Kingdom ar ôl dau ddigwyddiad yno’n ymwneud â lyncs.

 

Tua phythefnos yn ôl fe wnaeth lyncs, o’r enw Lillith, ddianc o’i gwarchodfa ac mi gafodd eu difa gan yr awdurdodau yr wythnos diwethaf.

 

Yn ogystal, daeth hi i’r amlwg heddiw fod ail lyncs, o’r enw Nilly, wedi tagu i farwolaeth ddiwedd yr wythnos diwethaf wrth i’r perchnogion geisio ei symud i warchodfa arall o fewn y sw wrth iddyn nhw ymateb i ymchwiliad i’r safle.

 

Ymchwiliad y Cyngor

 

Mae’r Ymddiriedolaeth yn galw am gau sw Borth gan gynnig ailgartrefu’r lyncs eraill mewn canolfan achub arall yng Nghymru.

Yn y ddeiseb, maen nhw’n beirniadu’r perchnogion o fod “heb brofiad” gyda’r sw “yn cyfrannu dim er lles cadwraeth nac addysg, ac yn methu cwrdd â safonau sylfaenol lles anifeiliaid ac yn creu bygythiad sylweddol i’r cyhoedd” wrth i anifeiliaid ddianc.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth yr ail lyncs yn sŵ Borth “a ddaeth at sylw’r Cyngor diwrnod ar ôl i’r anifail gael ei ladd yn anfwriadol.”

“Gan fod ymchwiliad yn mynd rhagddo, nid ydym yn gallu darparu sylw pellach,” meddai llefarydd.