Mae’r sŵ yn Borth yng ngogledd Ceredigion wedi cadarnhau fod lyncs arall wedi marw yn y warchodfa yr wythnos diwethaf.

Daw hyn ddyddiau’n unig wedi i awdurdodau ddifa’r lyncs oedd wedi bod ar goll ers pythefnos, sef Lillith.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook, mae Borth Wild Animal Kingdom, yn dweud fod lyncs arall o’r enw Nilly wedi “tagu” i farwolaeth yr wythnos diwethaf.

Mae’n debyg iddyn nhw geisio ei symud hi i warchodfa arall, ond iddi gael ei niweidio a mygu yn y broses.

Ymchwiliad llawn

Mae’r sŵ yn cydnabod eu bod wedi bod o dan “bwysau mawr” yn ddiweddar a hynny wrth i’r awdurdodau gyhoeddi y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad llawn i’r lleoliad.

“Pan wnaethon ni gymryd y sŵ llai na chwe mis yn ôl roeddem yn gwybod fod rhai materion difrofol ynglŷn â chartrefi’r anifeiliaid,” meddai’r perchnogion, Dean a Tracy Tweedy,  mewn datganiad.

“Doedd cartref y lyncs, yn enwedig, ddim yn addas ac yn bendant ddim yn cwrdd a gofynion modern y sŵ.”

Mae’r sŵ nawr yn wynebu galwadau i gau.

Mae’n debyg nad oedd Nilly yn perthyn i Lillith, ond roedd y ddwy yn rhannu’r un warchodfa.