Mae tua 35 o bobol ifanc drwy Gymru wedi’u dewis i fynd ar deithiau tramor gan fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru.

Mae’r mudiad yn cynnig cyfleoedd i aelodau deithio tramor bob blwyddyn, ac yn 2018 mi fydd yr aelodau’n cael y cyfle i deithio i’r Unol Daleithiau, Y Ffindir, Yr Almaen a Hwngari.

Cafodd y cyfweliadau eu cynnal yn Llanelwedd brynhawn ddoe (Tachwedd 12), a bwriad rhaglen ryngwladol y CFfI yw “annog dealltwriaeth yr aelodau o ddiwylliannau eraill.”

Teithio…

Mae tri aelod wedi’u dewis i fynd ar daith wirfoddol i Uganda, sef Hannah Powell, William Boulton, Gwenno Edwards ac Alison Richards.

Mi fydd Hannah Phillips, Lowri Jones, Aled Davies a Sioned Edwards yn teithio i’r Ffindir; Christina Morgan i’r Almaen ac Angela Evans a Lowri Pugh-Davies o Geredigion yn teithio i Hwngari.

Mae Ffion Edwards o Sir Benfro wedi’i dewis i deithio i Montana; Rhianwen Jones o Aberhonddu’n teithio i Alaska; Rebecca Smith yn ymweld ag Illinois, Elin Evans ac Elliw Dafydd yn teithio i Colorado a Jonathan Morgan ac Elis Smith yn mynd i Ganada.

Mi fydd aelodau hefyd yn ymweld â Gogledd Iwerddon a’r Alban – ble mae’r Rali Ewropeaidd yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

Y Wladfa

Yn ogystal, mae deg aelod wedi’u dewis i deithio i’r Wladfa yn 2019 am bythefnos, sef Ella Harris, Angharad Francis, Rhodri Lewis, Miriam Williams, Elen Gwen Williams, Daisy Hardwick, Angharad Edwards, Nest Jenkins, Gwenno Edwards ac Elin Haf Jones.