Mae pobl yng Nghaerdydd yn teimlo dan fwy o straen na thrigolion yr un ddinas arall yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg.
Yn ôl ymchwil cwmni yswiriant AXA mae 86% o bobol Caerdydd yn teimlo dan bwysau o leiaf peth o’r amser yn ystod yr wythnos, tra bod 13% dan straen yn feunyddiol.
Belfast a Sheffield sy’n gydradd ail gyda 86% o bobol y dinasoedd dan straen o bryd i’w gilydd, a 7% dan straen trwy’r amser – a hynny yn y ddwy ddinas.
O ran ymdopi â straen mae’n debyg bod mwyafrif o bobol Prydain (51%) yn gwylio’r teledu, tra bod 42% yn gwrando ar gerddoriaeth a 39% yn darllen llyfr.
Alcohol yw ateb 28% o bobl ond mae’n debyg bod canran uwch (33%) yn dewis ymarfer corff i leddfu straen.
“Epidemig straen”
“Mae’r canfyddiadau yma yn amlygu ehangder epidemig straen y Deyrnas Unedig,” meddai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Seicolegol AXA PPP, Dr Mark Winwood.
“Mae’n galonogol bod traean o bobol yn ymarfer corff i fynd i’r afael â straen – dull llawer fwy iachus nag ysmygu neu yfed … Dw i’n erfyn ar unrhyw un sy’n teimlo eu bod methu ag ymdopi, i siarad ag arbenigwr er mwyn lleddfu’r baich.”
Am beth mae pobol Caerdydd yn poeni?
- 40% – iechyd personol
- 40% – cyllid personol
- 37% – gwaith