Bydd Cyngor Gwynedd yn lansio ymgynghoriad ddydd Llun (Tachwedd 13) i’w cynlluniau i gau clybiau ieuenctid y sir.

Gyda’r nod o arbed £270,000, mae’r cyngor yn bwriadu cau pob un o glybiau ieuenctid y sir a sefydlu un clwb sirol yn ei le – clwb fyddai’n darparu “rhaglen o weithgareddau”.

Ar hyn o bryd mae clybiau ieuenctid yr awdurdod lleol yn cael eu cynnal gan 142 o weithwyr ieuenctid mewn  42 cymuned.

Mae adroddiad cafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Hydref yn tynnu sylw at gyfyngiadau cyllidol ac yn nodi nad yw’r ddarpariaeth yn medru parhau ar ei “ffurf bresennol”.

Cyllideb

“Ym mis Mawrth 2016, fe benderfynodd y Cyngor i dorri cyllideb y Gwasanaeth Ieuenctid gan £200,000 – ynghyd â tharged arbedion effeithlonrwydd £70,000,” meddai.

“Mae’r penderfyniad yma yn golygu nad yw’r Gwasanaeth Ieuenctid ar ei ffurf bresennol, yn medru bod yn opsiwn ar gyfer y dyfodol.”

Bydd yr ymgynghoriad yn para am chwe wythnos ac yn dod i ben ar Ragfyr 22.