Bydd cwest i farwolaeth yr Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, yn agor ddydd Llun (Tachwedd 13).

Y gred yw bod Carl Sargeant, 49, wedi lladd ei hun ddydd Mawrth diwethaf (Tachwedd 7),  pedwar diwrnod ar ôl colli ei swydd yng nghabinet Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, ei wahardd o’r Blaid Lafur yn sgil honiadau o ymddygiad amhriodol.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad yn Llys y Crwner Ruthun, gael ei agor a’i ohirio am 1.00yh.

Ymchwiliad annibynnol

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am ymchwiliad annibynnol – wedi ei gynnal gan un o Gwnsleriaid y Frenhines – i’w “weithredoedd a’i benderfyniadau” yn gysylltiedig â’r achos.

Mae Carwyn Jones eisoes wedi galw ar yr Ysgrifennydd Parhaol i ddechrau’r gwaith paratoi ar gyfer yr ymchwiliad.

Ond, mae teulu Carl Sargeant wedi beirniadu hyn gan nodi y gallai rhwystro’r ymchwiliad rhag bod yn un hollol annibynnol.

Mae yna bwysau hefyd ar Carwyn Jones i ymddiswyddo yn dilyn honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.