Mae Aelod Cynulliad blaenllaw wedi galw am “eglurder ar frys” gan Carwyn Jones ynghylch faint yn union roedd yn ei wybod am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Dywed Darren Miller, AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, iddo gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig i’r Prif Weinidog ym mis Tachwedd 2014, yn gofyn a oedd wedi derbyn unrhyw adroddiadau o fwlio gan ymgynghorwyr arbenigol yn ystod y tair blynedd cynt.

“Ateb y Prif Weinidog bryd hynny oedd nad oedd unrhyw honiadau wedi cael eu gwneud,” meddai Darren Miller.

“Mae hyn yn gwbl groes i’r hyn a ddywedodd y cyn-weinidog Leighton Andrews mewn cyfweliad ar Radio Wales ddoe, fod o leiaf bedwar gweinidog cabinet wedi codi pryderon ynglŷn â hyn gyda’r Prif Weinidog yn ystod llywodraeth 2011-2016.

“Yn fwy penodol, fe ddywedodd hefyd fod y Prif Weinidog wedi cychwyn ymchwiliad anffurfiol i rai cwynion ym mis Hydref 2014.”

‘Camarwain’

“Os yw hyn yn wir, yna mae rhesymau da iawn dros gredu bod Prif Weinidog Cymru wedi camarwain y Cynulliad a phobl Cymru yn fwriadol, am resymau sy’n anhysbys ar hyn o bryd,” meddai Darren Millar.

Dywedodd fod y Ceidwadwyr Cymreig wrthi’n gwneud ymholiadau pellach, ac os na fyddan nhw’n cael atebion parod gan y Prif Weinidog, y byddan nhw’n defnyddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

“Mae arnon ni angen eglurder ar frys gan y Prif Weinidog ynghylch beth yn hollol roedd yn ei wybod am yr honiadau a fwlio bryd hynny, ac a wnaeth ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol oddi wrth Aelodau Cynulliad.”