Mae John Albert Jones – uno’r tri wnaeth osod bom ar safle argae Tryweryn hanner canrif yn ôl  – wedi marw.

Roedd yn hanu o Rydyclafdy ger Pwllheli, a chyfrannodd hefyd at sefydlu Mudiad Amddiffyn Cymru.

Bu yn aelod o’r RAF cyn gadael oherwydd anaf.

Cafodd ei garcharu yn yr 1960au ynghyd ag Emyr Llewelyn ac Owain Williams am ei weithredoedd yng Nghwm Tryweryn.

Yn ôl Owain Williams, un arall o Dri Tryweryn, roedd John Albert Jones yn credu’n gryf mewn sefyll fyny dros hawliau, ac mae ei farwolaeth yn “golled aruthrol i Gymru”.

“Dim nonsens”

“Person straight oedd John, a’i draed ar y ddaear. Dim nonsens,” meddai Owain Williams wrth golwg360.

“Roedd o’n edmygu rhywun oedd yn sefyll i fyny, ac yn sefyll dros ei hawliau.

“Doedd John ddim isio sylw. Roedd o’n berson tawel iawn, gyda coblyn o sense of humour. Anhygoel ac unigryw i ddweud y gwir.

“Roedd o’n ffrind mawr i mi, un o fy ffrindiau gorau. Mae hyn yn golled aruthrol i’w deulu wrth gwrs ond mae’n golled aruthrol i Gymru.”