Roedd wyneb Hedd Wyn i’w weld ar wal y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth neithiwr fel rhan o brosiect fideo arbennig i gofio’r bardd.

Gwnaed y fideo gan ddyn o Fanceinion fel rhan o’r digwyddiadau i gofio can mlynedd ers marwolaeth bardd y Gadair Ddu ac yn cynnwys ei nai, Gerald Williams, 89, a phlant Ysgol Bro Hedd Wyn, yn darllen ei gerdd, ‘Rhyfel’.

Cafodd tri thaflunydd eu defnyddio er mwyn dangos ffilm ‘Y Milwr Amharod’ ar draws wal y Llyfrgell.

Clipiau newydd

Cafodd y noson neithiwr ei chomisiynu gan gwmni ScottishPower a’i gynhyrchu gan Gavin Sturgeon, gwneuthurwr ffilmiau ym Manceinion.

Mae clipiau newydd wedi cael eu ffilmio i gyd-fynd â’r gerdd, ‘Rhyfel’, sy’n disgrifio oferedd rhyfel, yn ogystal â lluniau sy’n dangos profiad y Cymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd rhai o’r plant yn y ffilm wedi teithio o Drawsfynydd i weld y fideo yn cael ei daflunio.

“Roedd perfformiad neithiwr yn ddiwedd gwych i raglen hyfryd o waith estyn braich,” meddai Linda Tomos, Prif Lyfrgellydd Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad ScottishPower am ariannu’r rhaglen yn hael ac i Mr Gerald Williams, nai Hedd Wyn, ac Yr Ysgwrn am eu cefnogaeth barhaus.”