Mae gyrrwr wedi marw wedi i ddau gerbyd daro’i gilydd ar yr A489 rhwng Caersws a’r Drenewydd.

Digwyddodd y ddamwain neithiwr am 7.40 a bu yn rhaid cau’r ffordd am rai oriau – ond mae hi bellach ar agor eto.

Ac mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw dystion gysylltu â nhw.