Fe fydd Prif Weinidog Cymru’n croesawu archwilio manwl ar ei benderfyniadau ynghylch marwolaeth yr Aelod Cynulliad, Carl Sargeant.

Ond fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai’n rhaid aros i ddatgelu unrhyw fanylion – naill ai trwy Gwest Crwner neu “ddulliau eraill”.

“Doedd gen i ddim dewis ond gwneud yr hyn wnes i a dw i’n gobeithio y bydd pobol yn gweld hynny.,” meddai mewn datganiad byr ar ddiwedd cyfarfod gydag ACau Llafur yn y Cynulliad.

“Mae’n debyg fy mod i wedi gwneud popeth a allwn i geisio cadw at y canllawiau,” meddai wedyn, gan wneud yn glir na fyddai’n ymddiswyddo oherwydd y digwyddiadau.

Teyrnged

Am y tro cynta’ hefyd, fe dalodd Carwyn Jones deyrnged i Carl Sargeant, gan ddweud ei fod yn berson cynnes ac wedi gwneud mwy na’r un gweinidog arall o ran gyrru deddfwriaeth trwy’r Cynulliad.

“Dyma’r dyddiau tywyllaf yn hanes y Cynulliad,” meddai.

Fe ddywedodd hefyd fod nifer “o bethau anghywir” yn y wasg, ond wnaeth e ddim egluro beth oedden nhw a ddywedodd e ddim am y prosesau oedd wedi eu dilyn, a pham.

Cwestiynau’n aros

Barn sylwebwyr yn union wedyn oedd fod y cwestiynau am y penderfyniad i ddisgyblu a diswyddo Carl Sargeant heb eu hateb – pam nad oedd wedi mynd at wasanaeth safonau’r gwasanaeth sifil, er enghraifft, a pham oedd e wedi diswyddo ei Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant heb wrandawiad.

Y disgwyl yw y bydd y cwestiynau’n parhau gan y bydd wythnosau os nad misoedd cyn y bydd cwest Crwner yn cael ei gynnal.