Mae cyn-Weinidog gyda Llywodraeth Cymru wedi disgrifio’r awyrgylch yn eu swyddfeydd ym Mae Caerdydd fel un “wenwynig”.

Yn ôl Leighton Andrews, pan fuodd yn Aelod o’r Cabinet dwywaith rhwng 2011 a 2016, roedd rhai aelodau o staff yn euog o “fân fwlio”, o chwarae gemau meddwl ac o ddangos ffafraeth.

Roedd Carl Sargeant hefyd yn “darged”, meddai, a bod hyn wedi cael effaith ar ei iechyd meddwl.

Yn ei ddogfen, mae e hefyd yn dweud ei fod wedi cwyno am un achos yn 2014 ond nad oedd dim wedi’i wneud am y peth.

“Mae hyn yn anodd ei ysgrifennu, ond mae angen i ddweud, meddai Leighton Andrews mewn dogfen y mae wedi’i gyhoeddi.

“Ddoe, fe wnes i ddweud wrth gwpl o newyddiadurwyr bod yna danseilio personol bwriadol o Carl Sargeant o fewn Llywodraeth Lafur Cymru dros sawl blwyddyn.

“… Wnes i wneud cwyn i’r Prif Weinidog am un agwedd ar hyn, lle oedd gen i dystiolaeth uniongyrchol, yn ystod hydref 2014.

“Bu ymchwiliad anffurfiol. Fe wnes i holi iddo fod yn un ffurfiol. Cefais wybod y bydd hynny’n digwydd. Doeddwn i erioed wedi gweld y canlyniad. Doedd dim trefn briodol.”

“Carl yn sicr oedd y targed”

Ar ôl i Leighton Andrews ddychwelyd i’r Cabinet yn 2014, mae’n dweud bod awyrgylch y pumed llawr yn Nhŷ Hywel, lle mae swyddfeydd y Gweinidogion wedi gwaethygu.

“Carl oedd yn sicr y targed am ran o’r ymddygiad. Roedd y drip-drip di-baid o gam-wybodaeth – a gwaeth – yn bwysau ar ei iechyd meddwl.

“Cafodd y Prif Weinidog wybod am hyn gan sawl gweinidog, gan gynnwys fy hun. Chafodd dim i’w wneud.”

Mae Carwyn Jones yn cyfarfod ag Aelodau Cynulliad Llafur ar hyn o bryd ac mae disgwyl datganiad ganddo am tua 4 o’r gloch.