Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yng nghanol Caerdydd ar amheuaeth o gynhyrchu canabis.
Cafodd Ffordd Crwys yn ardal Cathays ei chau am dros awr wrth i’r heddlu ymchwilio a sicrhau bod y tŷ, lle cafodd y ddau eu harestio, yn ddiogel.
Roedd heddlu arfog yno hefyd i sicrhau diogelwch y cyhoedd, yn ôl yr heddlu.
Mae’r ddau ddyn o ardal Y Sblot, sy’n 49 ac yn 60 oed, bellach yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd.
Cafodd y ddau eu harestio am tua 5 o’r gloch nos Fercher.