Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau eu bod yn trin marwolaeth dyn yn Rhondda Cynon Taf fel achos o lofruddiaeth.

Cafodd Jamie Perkins, 41, ei weld am y tro olaf yn ardal Gilfach Goch ar Hydref 12, a chafodd ei gorff ei ddarganfod ar Dachwedd 17 yn ardal Bog Lane, Gilfach Goch.

Yn ôl Heddlu De Cymru mae’r anafiadau oedd ar gorff Jamie Perkins yn awgrymu bod rhywun wedi ymosod arno.

Mae dau ddyn lleol 38 a 44 oed wedi cael eu harestio heddiw (Tachwedd 7) ac yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Mae dau ddyn oedd eisoes wedi cael eu harestio, wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

“Cwestiynau heb eu hateb”

“Mae yna gwestiynau heb eu hateb o hyd, ac rydym angen eich help i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd i Jamie,” meddai’r Ditectif Prif Arolygydd, Gareth Morgan.

“Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un sydd â gwybodaeth, gan gynnwys unrhyw un  a allai fod wedi gweld Jamie ar Hydref 8 – sef y tro diwethaf iddo ymddangos ar gamerâu cylch cyfyng.”