A hithau’n gan mlynedd ers Chwyldro Comiwnyddol Rwsia, mae chwyldro tebyg yng Nghymru o hyd yn freuddwyd pell, yn ôl awdur a Marcsydd.

Er bod Gareth Miles – un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – yn arddel syniadau Comiwnyddol ac yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Cymru, mae’n cydnabod nad oes “arwydd o chwyldro” yn ei famwlad.

Y broblem, meddai, yw bod “cyfalafiaeth yn hynod wydn” a bod y drefn wedi llwyddo i “wrthwynebu a threchu” mudiadau’r chwith sosialaidd.

Ond, a chyfalafiaeth yn symud “o argyfwng i argyfwng” mae’r Marcsydd yn rhagweld “dinistr llwyr i’r blaned” os na ddaw’r chwyldro Comiwnyddol.

Dim arwydd o chwyldro yng Nghymru 

“Does dim llawer o arwydd bod o’n mynd i ddigwydd yng Nghymru nac oes,” meddai wrth golwg360. “Hynny ydi, mae gyda chi… bleidiau sydd eisiau gwella’r drefn gyfalafol. Does dim arwydd o chwyldro.

“Yr hyn dw i’n credu ydy, beth sydd am wynebu dynoliaeth – ac mae’n rhaid fi feddwl am hyn yn nhermau’r byd-eang – unai sosialaeth, neu farbariaeth, neu ddinistr llwyr i’r blaned.

“Mae’n wirioneddol bosib bydd diwedd y byd yn digwydd trwy ryfel, neu trwy gamddefnyddio natur a’r amgylchedd.

“O ddifri, mi faswn i’n meddwl os nad ydi [Comiwnyddiaeth] yn llwyddo, rydan ni’n mynd i gael ein rheoli gan bobol fel Donald Trump a Theresa May a phobol felly. Dw i’n credu ein bod ni wedi cyrraedd safle dwys argyfyngus yn hanes dynoliaeth.”