Mi fydd cynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion yn pleidleisio heddiw tros ddyfodol un o gartrefi henoed tref Aberystwyth.

Mae adolygiad un o bwyllgorau’r Cyngor yn argymell cau cartref gofal preswyl Bodlondeb ym Mhenparcau erbyn 31 Mawrth 2018.

Ond mae gwrthwynebiad mawr i’r cynnig hwnnw fyddai’n golygu fod 33 o swyddi yn y fantol ac y byddai’n rhaid i’r 11 o breswylwyr ddod o hyd i gartrefi newydd.

Colledion

Mae’n debyg fod y cartref yn gwneud colledion difrifol bob blwyddyn, ac mae’r Cyngor wedi ceisio dod o hyd i ddarparwr preifat a chyfleuster iechyd meddwl integredig yno, ond bod hynny’n “anymarferol.”

Er bod 44 o ystafelloedd gwely yn yr adeilad, dim ond 26 sy’n gallu cael eu defnyddio am nad yw’r gweddill yn cyrraedd y safonau angenrheidiol.

‘Emosiynol’

“Mae llawer o waith caled a gwrando wedi eu gwneud wrth i’r Cyngor ystyried cau Bodlondeb,” meddai’r cynghorydd Catherine Hughes gan gyfeirio at eu hymgynghoriad cyhoeddus o ddeuddeg wythnos.

“Dw i’n ymwybodol iawn bod y cynnig i gau Bodlondeb yn fater emosiynol i lawer sy’n trysori’r cartref a’r safon o ofal sy’n cael ei ddarparu yno.”

Bu gorymdaith yn nhref Aberystwyth ddydd Sadwrn gyda phobol yn dod ynghyd i geisio achub y cartref.