Mae wedi bod yn “braf” medru gosod y Gymraeg a barddoniaeth Gymraeg ar blatfform cenedlaethol, yn ôl bardd sy’n ymddangos mewn hysbyseb gan gymdeithas adeiladu Brydeinig.

Yn ddiweddar mae’r gymdeithas adeiladu Nationwide wedi cyhoeddi cyfres o hysbysebion ‘Voices Nationwide’ sy’n cynnwys beirdd ledled gwledydd Prydain yn adrodd eu gwaith.

Ac mae un o’r hysbysebion yma yn cynnwys cerdd Gymraeg o’r enw ‘Weithie sdim isie geirie’ sy’n cael ei hadrodd gan ddau fardd o Gymru – Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury.

Mae Aneirin Karadog yn dweud ei fod yn falch o fod wedi cael cyfle i bortreadu’r Gymraeg mewn modd positif yn dilyn blwyddyn o “amharch ieithyddol”.

“Yn sgil y flwyddyn ddiwethaf o ymosodiadau ar yr iaith, enghreifftiau o dwpdra neu amarch ieithyddol tuag at y Gymraeg, o bob cyfeiriad yn y cyfryngau gan sefydliadau a siopau – Sports Direct a The Guardian hyd yn oed – mae’n braf cael y cyfle i ddodi’r Gymraeg ar lwyfan fel hyn,” meddai wrth golwg360.

Hen ddynion

Mae’r ddau fardd yn cyflwyno podlediad â’i gilydd o’r enw ‘Clera’, ac mae Aneirin Karadog yn dweud bod beirdd yr unfed ganrif ar hugain yn aml yn gosod eu gwaith ar-lein – trwy Facebook a Twitter ac ati.

 cherddi bellach yn ymddangos ar hysbysebion a’r we, ac yn cael eu sgwennu gan ystod eang o bobol, mae’n nodi bod angen herio ystrydebau’r maes.

“Dw i’n gofyn yn aml i fyfyrwyr a disgyblion ysgol – ‘Pan dw i’n dweud y gair bardd beth ydych chi’n meddwl amdano?’ Ac maen nhw fel arfer yn dweud ‘hen ddyn’,” meddai.

“Felly rydym ni eisiau trio newid hynny. Mae yna ferched ifanc, mae yna ddynion ifanc, mae yna bobol o bob cefndir yn barddoni … Mae barddoniaeth yn beth byw, a licen ni fod pobol yn sylweddoli hynny fwyfwy.”