Mae aelod o staff siop Greggs yn Llanbed wedi’i wahardd o’r gwaith yn dilyn honiadau ei fod wedi cymharu’r Gymraeg â chyflwr Tourette.

Daw hyn wedi i ddynes 18 oed gwyno ei bod wedi archebu yn y Gymraeg yn y siop a chael ateb gan y staff yn Saesneg yn dweud – “Cymraeg oedd hynny? Roedd e’n swnio’n fwy fel Tourette’s i fi.”

Mae llefarydd ar ran y cwmni’n dweud eu bod yn “ystyried y mater hwn o ddifrif ac mae’r aelod o staff wedi cael ei wahardd tra ein bod yn ymchwilio ymhellach.”

“Mae’r digwyddiad hwn yn mynd yn erbyn ein gwerthoedd ac ni ddylai fyth fod wedi digwydd. Rydym yn ymddiheuro’n fawr am unrhyw dramgwydd a achoswyd.”

Mae cyflwr Tourette yn cael ei ddisgrifio fel anhwylder niwrolegol sydd wedi’i nodweddu gan symudiadau corfforol a llafar ailadroddus ac afreolus.

“Diffyg deddfwriaeth iaith”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i’r honiadau trwy alw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys siopau’r stryd fawr dan ddyletswyddau iaith.

Mae’r mudiad iaith eisoes wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Greggs gan ofyn am gyfarfod i drafod eu polisi iaith.

“Os yw’n wir, mae’r ymddygiad honedig yma’n ofnadwy,” meddai  Osian Rhys, is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae wedi digwydd, nid yn unig o ganlyniad i agwedd un aelod o staff, ond, yn rhannol, o achos y diffyg deddfwriaeth iaith sy’n rheoleiddio busnesau preifat.”