Mae perchnogion sw yng ngogledd Ceredigion wedi datgelu eu bod yn defnyddio technoleg soffistigedig i geisio dod o hyd i lyncs sydd ar ffo.

Yn ôl staff Animalarium Borth, llwyddodd yr anifail i ddianc trwy ddringo canghennau a neidio dros ffens drydan – mae wedi bod ar ffo ers dros wythnos.

Roedd gweithwyr y sw eisoes wedi gosod trapiau abwyd iddi, ac erbyn hyn mae’r staff wedi dechrau defnyddio drôn arbennig a gogls sy’n eu galluogi i weld yn y tywyllwch.

Mae’n debyg bod yr anifail yn parhau i fod yn ardal y sw, ac ni fydd Animalarium Borth yn ail-agor tan fod y lyncs wedi’i dal.

Angen amynedd

“Rydym yn gwneud popeth y gallwn i gael gafael ar Lillith [y lyncs] heb achosi trawma, ond mae angen tipyn o amynedd er mwyn gwneud hyn,” meddai neges gan y sw ar eu tudalen Facebook .

“Hoffwn ddiolch pobol am eu negeseuon o gefnogaeth, a hoffwn eu diolch am aros i ffwrdd o’r ardal.”