Mae llefarydd ar ran Downing Street wedi cadarnhau wrth golwg360 fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i negeseuon testun o natur rywiol gan gyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.

Mae Aelod Seneddol Preseli Penfro yn wynebu camau disgyblu yn sgil yr helynt, yn unol â chod ymddygiad newydd ei blaid.

Mae e eisoes wedi cyfaddef iddo fod yn “anffyddlon” wrth anfon negeseuon at ddynes 19 oed oedd wedi ceisio am swydd yn ei swyddfa pan oedd e’n weinidog yng Nghymru.

Dyma’r ail waith iddo wynebu honiadau o’r fath ar ôl anfon negeseuon tebyg yn ystod y cyfnod ymgyrchu cyn y refferendwm Ewropeaidd. Bryd hynny, fe ymddiswyddodd o’i waith yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street nad ydyn nhw’n cyhoeddi datganiad, ond ei fod yn “gywir” ei fod yn cael ei ddisgyblu gan y Blaid Geidwadol.