Mae siop Greggs yn Llanbedr Pont Steffan wedi gwrthod ymateb yn ffurfiol i honiadau bod aelod o staff wedi cymharu’r iaith Gymraeg â chyflwr Tourette.

Daw’r ymateb ar ôl i ddynes 18 oed ddweud ar ei thudalen Twitter ei bod hi wedi archebu yn Gymraeg, ac wedi cael yr ateb yn Saesneg, “Cymraeg oedd hynny? Roedd e’n swnio’n fwy fel Tourette’s i fi.”

Pan ofynnodd golwg360 am ymateb gan reolwraig y siop, dywedodd nad oedd hi’n awyddus i ymateb yn ffurfiol, ond ychwanegodd y byddai hi’n siarad â’r holl staff.

Cyflwr Tourette

Mae cyflwr Tourette yn cael ei ddisgrifio fel anhwylder niwrolegol sydd wedi’i nodweddu gan symudiadau corfforol a llafar ailadroddus ac afreolus.

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â phrif swyddfa’r cwmni am ymateb.