Mae’n hen bryd i bobol roi’r gorau i feirniadu penderfyniad S4C i symud ei phencadlys i Gaerfyrddin a dechrau cefnogi er mwyn sicrhau llwyddiant y fenter.

Dyna neges maer Caerfyrddin mewn sesiwn drafod yn y dre’ neithiwr – rhan o weithgareddau Golwg ar Grwydr, dan adain y cyclchgrawn wythnosol. Fe ddywedodd ei fod wedi cael llond bol ar y cwyno.

“Ddyle pobol sy’n erbyn y peth ddod y tu ôl i ni a dangos cefnogaeth,” meddai Alun Lenny. “Os bydd S4C yn methu, bydd hi ar ben ar yr iaith.”

Roedd ef a phanelwyr eraill yn ymateb i gwestiynau am straeon newyddion diweddar am benderfyniad y sianel i symud i ganolfan newydd o’r enw yr Egin ar dir Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae cwestiynau wedi’u codi am y fargen yr oedd S4C wedi’i tharo wrth benderfynu symud a’r wythnos hon fe ddatgelodd Prif Weithredwr y sianel y byddai gweithwyr yn cael costau teithio am flwyddyn os oedden nhw’n gorfod symud i weithio o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Mae’n hysbys nad yw llawer o staff presennol y sianel eisiau symud o’r brifddinas ond, yn ôl Alun Lenny, roedd rhai ohonyn nhw wedi cael “siom o’r ochr orau” wrth weld yr adnoddau sydd ar gael yn y dre’.

Roedd gweddill y panelwyr – y Prifardd Aneirin Karadog, yr artist Swci Delic a’r perchennog label gerddoriaeth, Gruff Owen – yn gweld y datblygiad yn gyfle i ddenu pobol ifanc yn ôl i’r Gorllewin.

“I fi,” meddai Alun Lenny, “mae’n anhygoel, mae’n wireddu breuddwyd. Pan ddechreuais i weithio gyda’r BBC flynyddoedd yn ôl, do’n i ddim yn meddwl y byddai Caerfyrddin yn dod yn ail ganolfan ddarlledu fwya’ Cymru.”