Mae Dafydd Elis-Thomas yn dweud nad yw’n disgwyl ymuno â chabinet Llywodraeth Cymru, wrth i Carwyn Jones barhau â’r broses o ail-drefnu.

Yn ôl yr Aelod Annibynnol, a adawodd Plaid Cymru dros flwyddyn yn ôl, dyw e ddim wedi cael unrhyw wybodaeth am y posibilrwydd o gael swydd yn nhîm newydd Carwyn Jones.

Mae sïon ar led y gallai fod yn cymryd swydd Alun Davies yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

Dyw’r swydd honno ddim yn y cabinet gan ei bod yn swydd iau fel ‘Gweinidog’ ac nid ‘Ysgrifennydd’.

Er nad yw Dafydd Elis-Thomas yn disgwyl galwad ffôn yn cynnig swyddi iddo, dywed wrth golwg360 nad yw’n gallu “gwadu na chadarnhau dim” am nad yw’n ymwybodol am ddim byd eto.

Methu cadarnhau na gwadu dim

“Dw i heb siarad â’r Prif Weinidog ers o leia’ pythefnos, ac felly dw i ddim yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen i ddweud y gwir,” meddai Dafydd Elis-Thomas wrth golwg360.

“Dw i ddim yn disgwyl ymuno â’r Cabinet, nacdw, ond dw i ddim wedi cyfarfod â’r Prif Weinidog ers o leia’ pythefnos, mae hyn yn hollol wir…

“Dw i wedi bod yn siarad â’r Prif Weinidog am bob math o bethau yn arbennig am Brexit, yr Undeb Ewropeaidd a gwahanol bethau ers misoedd gan fy mod i’n Aelod Annibynnol.

“Galla’ i ddim gwadu na chadarnhau dim byd achos dw i ddim yn gwybod dim byd.

“Dw i ddim wedi cael unrhyw wybodaeth gadarn am ddim byd naill ffordd na’r llall… yn sicr dw i ddim yn disgwyl bod yn y Cabinet oherwydd fuasai hynny’n beth anarferol iawn i roi Aelod Annibynnol yn y Cabinet.

“Ond dw i ddim yn gwybod i fod yn hollol onest.”