Mae Dafydd Iwan wedi galw ar Gristnogion yng Nghymru i rannu mannau addoli a gwneud “defnydd callach” o’u “hadnoddau prin”.

Mewn llythyr yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg mae’r canwr a’r pregethwr yn nodi mai’r “angen pennaf” i Gristnogion yw eu bod yn dod at ei gilydd ac yn cael “un man cyfarfod ym mhob cymuned”.

Mae’n mynnu nad yw’n galw ar enwadau i uno ac yn dweud y gallan nhw barhau ar wahân “am y tro” – er ei fod hefyd yn wfftio’r ‘mân wahaniaethau’ rhyngddyn nhw.

“Bellach does dim synnwyr mewn gadael i’r mân wahaniaethau rhyngom i’n rhwystro rhag gwneud defnydd callach o’n hadnoddau prin,” meddai yn ei lythyr.

“Gofynnaf i’r awdurdodau enwadol i roi arweiniad, a defnyddio’u hadnoddau sylweddol i drefnu un lle o addoliad ym mhob cymuned drwy Gymru.”

Canolfannau cymunedol

Mae Dafydd Iwan hefyd yn argymell bod Cristnogion yn dewis canolfannau cymunedol yn fannau addoli ac yn dweud ei fod yn ‘ffordd dda o dynnu’r eglwys a’r gymuned yn nes at ei gilydd’.

“Pan wêl pobol ifanc fod Cristnogion yn fodlon gweithio gyda’i gilydd, a throi eu credo yn weithredu effeithiol dros bobol sydd mewn angen, yna bydd gennym ryw obaith o’u denu i’r eglwys,” meddai.

“Os parhewn gyda’r sefyllfa druenus bresennol, arnom ni fydd y bai am dranc ein capeli.”