Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o esgeulustod yn dilyn marwolaeth tri milwr yn ystod ymarferion milwrol ar fynydd-dir Bannau Brycheiniog.

Fe allen nhw gael eu carcharu am hyd at ddwy flynedd.

Bu farw’r Is-gorporaliaid Edward Maher a Craig Roberts ar ôl gorboethi tra’n cerdded y mynyddoedd ym mis Gorffennaf 2013, a hynny ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn honno.

Rhyw bythefnos ar ôl cwblhau’r daith 16 milltir o hyd bu farw’r Corporal James Dunsby yn yr ysbyty wedi i nifer o’i organau fethu.

Yn ystod gwrandawiad yn Solihull, canolbarth Lloegr, dywedodd Crwner fod y tri dyn wedi marw oherwydd “methiannau o ran trefnu a rheoli’r” ymarferion.

Y gred yw mai’r dynion sydd wedi eu cyhuddo o esgeulustod oedd yn gyfrifol am hyfforddi’r milwyr fu farw, ac mae’n debyg y gallan nhw wynebu hyd at ddwy flynedd dan glo.

Yn wreiddiol roedd Awdurdod Erlyn y Lluoedd Arfog wedi penderfynu peidio â chyhuddo unrhyw un yn gysylltiedig â’r marwolaethau, ond bu tro pedol yn sgil her gan gyfreithiwr teuluoedd y milwyr.