Fe fydd gweithwyr S4C yn cael treulio blwyddyn yn y pencadlys newydd yng Nghaerfyrddin, cyn penderfynu a ydyn nhw am aros yno neu beidio.

Dyna ddywedodd Prif Weithredwr newydd y Sianel Gymraeg yn ei gyfweliad cyntaf gyda chylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Ac mae Owen Evans yn mynnu ei fod yn “rhywbeth positif uffernol” bod S4C yn symud “swyddi deche, cyffrous i Gymru wledig”.

Ymhen blwyddyn fe fydd pencadlys y Sianel yn symud tua’r Gorllewin, o Gaerdydd i Gaerfyrddin, ond nid yw yn glir hyd yma faint o’r gweithwyr presennol sydd am symud.

Bydd cartref newydd S4C o fewn canolfan Yr Egin sydd ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar gyrion y dref.

“Rydyn ni mewn trafodaeth efo pawb ar y funud [i weld] faint o bobol sydd eisiau mynd draw, faint o bobol sydd eisiau trio’r newid am chwe mis neu flwyddyn a faint o bobol sydd jyst yn mynd i ddweud: ‘Na, dw i ddim eisiau symud’,” meddai Owen Evans wrth Golwg.

“Mae rhai swyddi lle fydd yn rhaid i bobol fod efo’i gilydd o gwmpas Caerfyrddin… nawr dyw hwnna ddim yn meddwl na allwn ni fod yn hyblyg am bobol yn gweithio gartre neu’n gweithio o gwmpas unrhyw le i fod yn onest.

“Ond fe fydd rhai pobol efo’r penderfyniad i fynd i Gaerfyrddin neu i adael S4C yn y diwedd. Ond fe wnawn ni fel cyflogwr sydd eisiau cadw cymaint o bobol ag sy’n bosib, fod mor hyblyg ag y gallwn ni.”

Cymudo dros dro

Yn ôl Owen Evans, sy’n gyn-Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru, mae “y rhan helaeth o bobol” yn fodlon symud i Gaerfyrddin dros dro cyn penderfynu aros neu fynd.

“Fi’n credu fel bydd y blynyddoedd yn mynd ymlaen, bydd mwy a mwy o bobol yn tueddu i symud i’r ardal,” meddai, gan gydnabod y bydd llawer o’r staff yn penderfynu cymudo o Gaerdydd i Gaerfyrddin ar y dechrau.

“Ond wrth gwrs, beth bynnag fydd yn digwydd, byddwn ni’n denu llwyth o swyddi yng Nghaerfyrddin a bydd hwnna ar agor i bobol leol.

“Felly mae yna gymysgedd… mae llwyth o bobol yn mynd i symud neu’n mynd i deithio nôl a ‘mlaen i weld sut allen nhw ymdopi ac wedyn bydd rhai swyddi yn cael eu hysbysebu yn lleol.”

“Y sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnom ni” – mwy gan y Prif Weithredwr newydd yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.

Gwrandewch ar y Prif Weithredwr newydd yn trafod yr her o symud pencadlys S4C: