Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penodi Prif Weithredwr newydd, sef Clare Pillman o ardal Yr Wyddgrug.

 

Ar hyn o bryd mae Clare Pillman yn Gyfarwyddwr Adran Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon y Llywodraeth yn San Steffan.

 

Mi fydd yn dechrau ar ei gwaith ym mis Chwefror 2018 gan olynu Emyr Roberts sydd wedi bod yn Brif Weithredwr i Gyfoeth Naturiol Cymru ers ei sefydlu yn 2013.

 

Y Gymraeg a dwyieithrwydd

 

Yn rhan o’i gwaith presennol mae Clare Pillman wedi bod yn gyfrifol am bolisïau’n ymwneud â diwylliant, twristiaeth a chwaraeon yn ogystal â chyrff Historic England, Visit Britain, UK Sport a’r Parciau Brenhinol.

 

Mi gafodd ei magu ger pentref Nercwys, Yr Wyddgrug ac yn parhau i fyw yn yr ardal.

 

Mae’n dysgu Cymraeg ac wedi cael ei hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009 am ei chyfraniad at ddwyieithrwydd yn y system gyfiawnder.

 

Mi fydd Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol CNC yn cymryd yr awenau yn Brif Weithredwr yr asiantaeth tan fis Chwefror.