Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i ymchwilio i achos tân mewn tŷ ger Pwllheli yn gynnar bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ anghysbell ym Mynytho ger Pwllheli toc wedi 6yb ddydd Mawrth, 31 Hydref.

Fe lwyddodd diffoddwyr tân i ddod a’r fflamau dan reolaeth ond mae difrod sylweddol i’r tŷ.

Nid oedd unrhyw un yn yr eiddo ar y pryd.

Dywedodd yr Arolygydd Gethin Jones o orsaf yr heddlu ym Mhwllheli eu bod yn cynnal ymchwiliad ar y cyd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i geisio darganfod beth achosodd y tân.

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd a allai fod wedi gweld unrhyw beth amheus neu sy’n gwybod unrhyw beth am y digwyddiad, i gysylltu â’r heddlu ar unwaith ar 101 neu Taclo’r Taclau 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod V165132.