Mae lyncs sydd wedi dianc o sw yng ngogledd Ceredigion bron i wythnos yn ôl yn parhau ar goll.

 

Mi gafodd y lyncs, sydd wedi’i henwi yn Lilleth, ei gweld neithiwr, ond nid yw’r awdurdodau wedi llwyddo i’w dal hyd yn hyn.

 

Mae sw Animalarium Borth wedi cyhoeddi y byddan nhw ynghau heddiw wrth i’r holl staff gynorthwyo â’r chwilio.

 

Trapiau abwyd

 

Dros y dyddiau diwethaf mae staff y sw wedi gosod trapiau abwyd i’w denu yn ôl, ac mi gafodd ei gweld ar un o fryniau Borth neithiwr.

 

Mae lle i gredu iddi ddiflannu’n wreiddiol rhwng Hydref 24 a Hydref 29 ac mae pobol wedi beirniadu’r sw am gymryd pum diwrnod i adrodd am ei diflaniad.

 

Ond mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook mae cynrychiolydd ar ran Animalarium Borth yn esbonio fod cartref y lyncs yn y sw yn “hen ac wedi’i ddylunio’n wael” a’u bod yn y broses o adeiladu un “mwy a modern.”

Anafu

Mae’n esbonio fod mannau tywyll yn y ddalfa nad oes posib eu gweld heb gynnal archwiliad llawn ac mae’n debyg i’r lyncs ymladd ag un o’r cathod eraill yr wythnos diwethaf a’u bod yn credu iddi anafu ei hun.

 

“Dros y dyddiau diwethaf ni ddaeth allan am ei bwyd ac roedd y staff yn meddwl ei bod wedi’u hanafu,” meddai’r cynrychiolydd.

Erbyn dydd Sul aethon nhw mewn i wneud ymchwiliad llawn a chael “sioc nad oedd hi yno o gwbl gan hysbysu’r awdurdodau yn syth.”

 

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhybuddio pobol i fod yn wyliadwrus ac i gysylltu â’r heddlu ar 101 os ydyn nhw’n ei gweld, neu ffonio 999 os ydy’r gath wyllt yn ymosod ar anifail arall.