Mae angen cryfhau economi Cymru er mwyn gwella cyflogau graddedigion, yn ôl academydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae Dafydd Trystan, Cofrestrydd ac Uwch Reolwr Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi dadansoddi data’r Longitudinal Education Outcome (LEO) ar y cyd â Hugh Jones, ymgynghorydd addysg uwch o Gaerdydd.

Mae’r ddau’n casglu fod graddfa cyflogau graddedigion Cymru yn is na chyfradd cyflogau graddedigion yr Alban a Lloegr yn y rhan fwyaf o feysydd, heblaw am feddygaeth a deintyddiaeth.

Mae’r data’n edrych ar gyflogau graddedigion y Deyrnas Unedig bum mlynedd ar ôl iddyn nhw raddio, ac mi fydd y dadansoddiad yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn o hyn allan.

Cyflogau

Mae’n ymddangos mai Prifysgol Caerdydd sy’n cynnig y raddfa gyflogau orau i raddedigion ar ôl graddio gyda meddygaeth a deintyddiaeth yn cyrraedd brig y rhestr.

Mae’r data hefyd yn dangos y gallai graddedigion ym maes peirianneg, pensaernïaeth a nyrsio disgwyl ennill hyd at £30,000.

Ond mae cyflogau gweithwyr yn y Celfyddydau Creadigol a Dylunio yn disgyn yn is na’r meincnod cyflog yng Nghymru o £20,800 i oedolion sy’n meddu ar radd, neu beidio.

Profiad gwaith’

“Mae job o waith i’w wneud o gwmpas hybu a hyrwyddo’r economi,” meddai Dafydd Trystan wrth golwg360.

“Mae ’na alw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau’r economi ac mae ’na alw ar brifysgolion i adnabod yr arfer gorau a’i ledaenu ar draws y cwricwlwm,” meddai.

Mae’n ychwanegu fod cyfnod o brofiad gwaith yn cryfhau cyfleoedd graddedigion ym myd gwaith ac mae am weld prifysgolion yn datblygu cyfleoedd o’r fath yn rhan o’u cyrsiau.

“Mae angen cryfhau’r lincs gyda’r byd busnes yn y cyrsiau hynny,” meddai Dafydd Trystan.

“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhedeg cynllun profiad gwaith, a beth rydyn ni’n gweld yw bod patrymau cyflogau i’r sawl sydd wedi bod allan yn gweithio gymaint yn well na phe baent heb wneud hynny.”

Mae modd gweld eu dadansoddiad llawn o gyflogau graddedigion Cymru ar wefan IWA.