Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw bachgen 16 oed fu farw mewn parti Calan Gaeaf dros y penwythnos.

Mae lle i gredu bod Morgan Phillip Miller-Smith o Gonwy wedi cymryd tabledi ecstasi yn ystod y  parti yng Ngwytherin ger Llanrwst.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r parti Calan Gaeaf gan staff y Gwasanaeth Ambiwlans toc wedi 1yb ddydd Sul, 29 Hydref ar ôl i’r bachgen gael ei daro’n wael.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan lle bu farw.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw.

Rhybudd

Mae Heddlu’r Gogledd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhybuddio unrhyw un a oedd wedi cymryd y tabledi pinc, gyda’r symbol Rolls Royce arnyn nhw, ac sy’n teimlo’n sâl i fynd i’r ysbyty ar frys.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio unrhyw un sydd a’r tabledi yn eu meddiant i beidio eu cymryd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Gareth Evans bod hyn yn “ddigwyddiad wirioneddol drasig lle mae bachgen ifanc wedi colli ei fywyd.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod hynod o anodd yma ac maen nhw’n cael cymorth gan swyddogion cyswllt arbenigol.”

Mewn teyrnged iddo ar dudalen Facebook siop L’s Coffee & Book Shop yng Nghonwy, lle’r oedd Morgan Miller-Smith a’i deulu yn gweithio, cafodd ei ddisgrifio fel bachgen “annwyl, doniol a gofalus.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod V164084.