Gall y gost o ofalu am gleifion sydd wedi cael strôc yng Nghymru dreblu erbyn 2035 os nad yw awdurdodau yn gweithredu ar frys, yn ôl elusen.

Mae ffigurau newydd gan Gymdeithas Strôc Cymru yn awgrymu bod strociau yn costio £1 biliwn i Gymru bob blwyddyn – a gallai godi i £2.8bn o fewn deunaw mlynedd.

Yn ôl adroddiad yr elusen, mae cost strociau i deuluoedd a gofalwyr yn llawer uwch nag y mae amcangyfrifon yn awgrymu.

Mae’r adroddiad hefyd wedi dod i’r casgliad y gallai gwario £60 miliwn ar ymchwil i strociau arwain at arbed £10 biliwn drwy wledydd Prydain erbyn 2035.

£1 biliwn

O’r £1 biliwn mae:

  • £58 miliwn yn cael ei wastraffu (oherwydd absenoldebau meddygon ac ati)
  • £133 miliwn yn mynd tuag at ofal GIG
  • £204 miliwn yn mynd tuag at ofal cymdeithasol
  • £613 miliwn yn mynd tuag at ofal anffurfiol

“Newid y stori”

“Mae disgwyl y bydd cynnydd  yn nifer y bobol sydd yn cael eu heffeithio gan strociau, a chynnydd hefyd yn y gost,” meddai Cyfarwyddwr dros dro Cymdeithas Strôc Cymru, Ross Evans.

“Rydym angen newidiadau radical i’r ffordd mae strociau yn cael eu trin yng Nghymru. Hefyd mae ymchwil yn hanfodol. Dydy hyn ddim yn dderbyniol: Mae’n rhaid i ni newid y stori.”

“Sawl cam ymlaen”

“Rydym wedi cymryd sawl cam ymlaen o ran gofal strôciau ledled Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

 

“Mae mwy o bobol nag erioed yn goroesi strôciau, ond rydym yn gwybod bod angen gwneud hyd yn oed yn fwy er mwyn sicrhau’r gofal gorau posib i gleifion a’u teuluoedd.

 

“Tra bod Byrddau Iechyd  yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau strôc o’u dyraniad ariannu, rydym ni hefyd yn darparu £1 miliwn yn flynyddol er mwyn cefnogi gwaith y Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc.”