Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddau achos o ladrata yn Llanelli y bore ma.
Digwyddodd y lladrad cyntaf am oddeutu 4 o’r gloch y bore wrth i ddyn a dynes gerdded heibio cyffordd Heol Goring.
Aeth dyn a dynes atyn nhw. Roedd gan y dyn acen Gymreig ac roedd e’n gwisgo top tywyll a het. Roedd y dynes yn gwisgo top gwyn.
Roedden nhw wedi bygwth y dioddefwyr â chyllell cyn mynnu eu bod nhw’n rhoi ffonau symudol a bag iddyn nhw. Dioddefodd y dyn ymosodiad.
Rhedodd y ddau i ffwrdd i gyfeiriad tafarn y Thomas Arms.
Ail ddigwyddiad
Digwyddodd yr ail ymosodiad ryw ugain munud yn ddiweddarach ger Prospect Place yn y dref.
Aeth dyn a dynes at ddynes arall oedd yn cerdded ar ei phen ei hun, a mynnu ei bod hi’n rhoi ei ffôn symudol a’i siaced iddyn nhw.
Roedd y dyn o gorffolaeth ganolig ac yn gwisgo top tywyll â streipiau gwyn. Roedd y ddynes yn gwisgo top gwyn.
Mae nifer o bobol yn derbyn cefnogaeth yr heddlu yn dilyn y digwyddiadau.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth, neu sy’n dod o hyd i’r eitemau coll, gysylltu â’r heddlu ar 101.