Fe lwyddodd Anthony Joshua i amddiffyn ei deitl pwysau trwm WBA ac IBF y byd yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd nos Sadwrn wrth guro Carlos Takam.

Ac mae’r Sais wedi amddiffyn penderfyniad y dyfarnwr i stopio’r ornest yn y degfed rownd.

Roedd ei wrthwynebydd o Ffrainc yn anfodlon fod yr ornest wedi dod i ben yn gynnar, ac mae e wedi galw am ail gyfle i herio Anthony Joshua.

Roedd hi’n ymddangos nad oedd y penderfyniad yn boblogaidd ymhlith y dorf ychwaith, wrth iddyn nhw leisio’u hanfodlonrwydd.

Ceisiodd Anthony Joshua egluro ymateb y dorf drwy ddweud fod “pobol eisiau gweld fy ngwrthwynebwyr yn anymwybodol bob tro”.

Dywedodd ei hyrwyddwr, Eddie Hearn nad oedd e eisiau stopio’r ornest yn gynnar, gan ei fod e eisiau i Anthony Joshua ennill “yn naturiol”.

Y flwyddyn nesaf

Mae Eddie Hearn wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd Anthony Joshua yn ymladd dair gwaith y flwyddyn nesaf – o bosib yn yr Unol Daleithiau.

Y gobaith yw y bydd yr ornest gyntaf ym mis Mawrth neu Ebrill, ac fe allai orfod amddiffyn ei deitl unwaith eto dros yr haf.