Mae arweinydd UKIP Cymru yn dweud mai pobol Catalwnia ddylai gael penderfynu ar eu dyfodol mewn refferendwm ac nid ‘grym arfog llywodraeth ganolog unbeniaethol ym Madrid’.

Mae Neil Hamilton AC yn feirniadol hefyd o agwedd Plaid Cymru ar y pwnc.

“Mae Plaid Cymru’n iawn i feirniadu gweithredoedd gormesol Sbaen. Ond maen nhw’n methu â gweld y cysylltiad rhwng hynny a chefnogaeth dawel yr Undeb Ewropeaidd i drais gwladwriaeth Sbaen,” meddai. 

“Petai Plaid Cymru’n aralleirio ‘Cymru’ am ‘Catalwnia’, fe fydden nhw’n sylweddoli mai’r Undeb Ewrepeaidd yw gelyn mudiadau annibyniaeth ledled Ewrop.

“Dw i’n credu yn y Deyrnas Unedig, ond mae gan bobol Cymru hawl digwestiwn i benderfynu eu dyfodol eu hunain.  Dyw Catalwnia ddim yn haeddu dim llai.”