Bydd un o weinidogion Llywodraeth Cymru’n ymweld â Sefydliad Masnach y Byd yn Genefa yr wythnos nesaf i geisio diogelu buddiannau Cymru ar ôl Brexit.

Fe fydd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi yn cwrdd â Karl Brauner, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad a Julian Braithwaite, Llysgennad y Deyrnas Unedig i’r Sefydliad i fagu cysylltiadau â gwledydd a dysgu mwy am sut y gall Cymru ddylanwadu ar berthynas Prydain â’r Sefydliad yn y dyfodol.

Bydd Ysgrifennydd yr Economi hefyd yn cwrdd â busnesau lleol mewn ymdrech i ddatblygu’r berthynas fasnachu iach sydd eisoes rhwng Cymru â’r Swistir.

Meddai Ken Skates;

“Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda chyn lleied o darfu â phosib.

“Un o ganlyniadau anochel Brexit yw y bydd yn rhaid i Brydain ailsefydlu ei hun fel aelod annibynnol o Sefydliad Masnach y Byd.

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli’n deg yn y broses hon ac yn ystod ymweliad â Genefa byddaf yn ystyried sut y gallwn ddylanwadu ar Lywodraeth Prydain a Sefydliad Masnach y Byd a gweithio gyda nhw yn y ffordd orau.

“Mae diogelu ein diwydiant dur, ein sector technoleg sy’n tyfu, ein sector ynni a’n trefniadau tollau yn gyffredinol yn hanfodol wrth i ni baratoi i adael yr UE a bydd yn hollbwysig i’n hymdrechion parhaus i ddatblygu economi Cymru ffyniannus a fydd o fudd i bobl ar hyd a lled y wlad.”