Mae gan Undeb Rygbi Cymru “le i wella” wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn eu camp, ac mae eleni’n gyfle i “ail-bwysleisio’r neges” yn ôl y canwr Dafydd Iwan.

Mae’n ddeng mlynedd i’r wythnos hon (Hydref 31) ers colli un o gewri’r genedl, Ray Gravell, ac mae Dafydd Iwan yn sôn amdano fel un o’r “ychydig rai sy’n gallu cyfuno’r Cymry Cymraeg a’r di-gymraeg mor naturiol”.

“Mi’r oedd e’n adnabyddus i bawb yng Nghymru p’un â’u bod nhw’n dilyn rygbi ai peidio,” meddai.

Am hynny, mae’r canwr yn siŵr y byddai Ray Gravell hefyd wedi dymuno gweld yr undeb rygbi’n gwneud mwy dros yr iaith.

Y Gymraeg – pêl-droed a rygbi

“Er eu bod nhw’n defnyddio’r Gymraeg dw i’n credu fod yna le i wella,” meddai Dafydd Iwan wrth golwg360.

“Mae’n amlwg bellach fod yr awdurdodau pêl-droed yng Nghymru wedi gweld pwysigrwydd Cymreigio eu holl drefniadau gan gynnwys eu hymwneud â’r tîm cenedlaethol. Cael y tîm i feddwl fel Cymry a sôn am hanes Cymru a’r iaith wrth y chwaraewyr.”

“Gyda rygbi mi fyddai hi’n haws gwneud hynny, ond mae’r awdurdodau rygbi yn araf yn Cymreigio’r ffordd y maen nhw’n cyfathrebu gyda phobol Cymru.”

Ac mae’r wythnos hon yn gyfle i “ail-bwysleisio’r neges honno” meddai, wrth i bobol gofio am Ray Gravell.

Diffuant

Wrth gofio amdano mae Dafydd Iwan hefyd yn talu teyrnged i’w “gymeriad twymgalon” a dyn “hollol ddiffuant”.

Mae’n sôn iddo gael llawer o waith darlledu gyda’r BBC a’i fod wedi cael ei gynghori i beidio â dangos ei safbwyntiau’n rhy amlwg.

Ond yn ôl Dafydd Iwan – “wnaeth o ddim newid dim ar ei ddaliadau. Mi wnaeth e ddal yn gefnogol iawn i achos Cymru a’r Gymraeg ac yn ei chael hi’n anodd iawn i guddio’i deimladau wrth i Gymru chwarae.

“Roedd o’n gymeriad mor hoffus, roedd o’n cael gwneud pethau efallai byddai pobol eraill ddim yn cael eu gwneud,” meddai wedyn.