Mae un o gyflwynwyr Radio Cymru’n dweud i Ray Gravell wneud “cyfraniad mawr” wrth roi llais pobol y de orllewin ar y cyfryngau cenedlaethol.

Bu Marc Griffiths, sy’n cyflwyno rhaglen geisiadau ar Radio Cymru bob nos Sadwrn, yn cydweithio â Ray Gravell ar raglen Y De Orllewin gafodd ei lansio yn 2004.

Yn rhan o’r rhaglen honno bu yntau, Ray Gravell a Siân Thomas yn cyflwyno eitemau gan roi llais i acenion ardaloedd Dyffryn Tywi, Dyffryn Aman, Cwm Gwendraeth, Cwm Tawe a Chwm Nedd.

“Holl bwrpas rhaglen Y De Orllewin oedd mynd mas at y bobol, a dyna oedd un o gryfderau mwyaf Grav, sef siarad â’r bobol,” meddai Marc Griffiths wrth golwg360.

“Roedd e’n berson annwyl iawn, wastad yn barod i siarad gyda phawb.”

Amrywiaeth acenion

Daw Marc Griffiths o Lanybydder yn wreiddiol a bu’n gweithio am gyfnod i Radio Ceredigion cyn ymuno â Radio Cymru tuag ugain mlynedd yn ôl.

Mae’n dweud ei bod hi’n bwysig i gael cynrychiolaeth o bob ardal yng Nghymru ac amrywiaeth o acenion ar yr orsaf genedlaethol.

“Mae’n bwysig i roi sylw i bob rhan o Gymru ac roedd ’na rhyw agosatrwydd yn y rhaglen [y de orllewin] wrth inni fynd mas i gwrdd â’r bobol oedd yn gwrando,” meddai.

Mae’n dweud fod Ray Gravell yn gyflwynydd naturiol fyddai’n cyflwyno’i hunan i’r bobol bob tro.

“Doedd dim eisiau iddo gyflwyno ei hunan, ond roedd hynny’n bwysig iddo. Doedd dim byd yn fawr amdano, a fe yw un o’r bobol hyfrytaf dw i wedi’u cwrdd erioed.”