Mae un o hoelion wyth Plaid Cymru yn etholaeth Llanelli wedi ei wahardd o’r Blaid – ac mae yn dweud nad yw wedi cael gwybod pam.

Mae Gwyn Hopkins – sy’n aelod o Blaid Cymru ers 1973 – wedi ei wahardd ers dechrau’r mis, ynghyd ag aelod arall o’r enw Meilyr Hughes.

Bu’r ddau yn rhan o grŵp o 26 o bobol a lofnododd llythyr at Brif Weithredwr Plaid Cymru, Gareth Clubb, yn cyhuddo ymgeisydd y Blaid yn etholaeth Llanelli – Mari Arthur – o dorri rheolau adeg ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Maen nhw hefyd wedi cwyno ynghylch y ffordd cafodd Mari Arthur ei dewis i sefyll yn Llanelli gan y Blaid yn ganolog.

Roedd cangen Plaid Cymru Llanelli wedi dewis y cynghorydd tref, Sean Rees, i sefyll yn yr etholiad cyffredinol.

Daw’r ffrae ddisgyblu ddiweddaraf ar gynffon ymchwiliad chwe mis a mwy’r Blaid i’w Haelod Cynulliad Neil McEvoy.

Cloi Pleidwyr allan am 73 diwrnod

Dywedodd Gwyn Hopkins wrth golwg360 fod sawl cwyn wedi ei gwneud am Mari Arthur, ac un o’r rheiny oedd bod yr ymgeisydd wedi cloi rhai o’i chyd-Bleidwyr allan o swyddfa’r Blaid yn Llanelli.

“Mae yna gwynion wedi mynd i mewn yn enw 26 o bobol flaenllaw yn y blaid yn Llanelli ac felly ry’n ni’n aros i weld beth ddaw o hwnna,” meddai Gwyn Hopkins.

“Cafodd [cloeon] y ddau ddrws ffrynt eu newid. Mae [Mari Arthur] ac un neu ddau arall â’r allweddi ac mae pobol fel fi, pobol sy’n aelodau blaenllaw o’r blaid a rhai swyddogion hefyd, wedi cael eu cloi allan o’r swyddfa am 73 o ddiwrnodau erbyn hyn.

“Dw i ddim yn credu bod hwnna wedi digwydd yng Nghymru yn y Blaid o’r blaen mewn unrhyw swyddfa arall.

“Dw i ddim yn credu bod rhywun wedi cael gafael mewn allweddi a chau pawb mas a’i chadw ar gau bob dydd o’r wythnos ond am ddydd Gwener.

“Mae’n ddirgelwch i fi pan fyddai’n mofyn i gadw’r lle ar glo drwy’r wythnos heblaw am ddydd Gwener. Dyw hwnna ddim yn mynd i hyrwyddo achos y Blaid bydden i ddim yn meddwl.”

Y dewis yn corddi aelodau’r Blaid

Dywedodd Gwyn Hopkins nad oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch i ethol Mari Arthur adeg yr Etholiad Cyffredinol eleni am nad oedd yn cytuno gyda’r dewis ymgeisydd.

“Bydden i wedi hoffi gweld rhywun arall. Y modd cafodd y peth ei wneud, dyna beth oedd yn fy nghorddi i ac yn corddi lot o bobol eraill… bod nhw i bob pwrpas wedi gorfodi’r fenyw ar etholaeth Llanelli. Dyw hwnna ddim yn ffordd gall iawn yn fy marn i i gael cydweithrediad pobol.”

Yn ôl Gwyn Hopkins, mae’n aros i gael rhagor o wybodaeth gan Blaid Cymru ar union delerau ei waharddiad.

“Dw i wedi cael llythyr wrth Gareth Clubb, Prif Weithredwr Plaid Cymru, yn dweud bod cadeirydd y Blaid, Alun Ffred Jones, wedi fy ngwahardd i – ond dyw e’ ddim yn dweud pam na phryd y bydd y mater yn cael ei drafod na dim.

“Alla’ i ddim apelio yn erbyn rhywbeth dw i ddim gwybod yn beth yw e’, dw i’n aros bob dydd i gael llythyr wrth Alun Ffred neu Gareth Clubb i ddweud wrtha’ i beth yw’r cam nesaf.

“Dw i wedi bod yn aelod gweithgar a blaenllaw ers 1973, felly mae’r peth yn ddirgelwch i fi beth sydd wedi digwydd. Wel mae’n anhygoel i ddweud y gwir.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Mari Arthur.

“Mater difrifol iawn”

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Fe wnaeth Plaid Cymru gynnal proses deg a thryloyw wrth ddewis ei hymgeisydd Llanelli ar gyfer Etholiad San Steffan 2017.

“Doedd un o’r unigolion oedd yn ceisio’r enwebiad ddim yn bodloni meini prawf y Gofrestr Genedlaethol, ac felly’n anghymwys. Cafodd yr holl ymgeisyddion wybod a oeddent yn gymwys ai peidio, cyn y cyfarfod dewis.

“Mae Plaid Cymru yn ystyried rhannu gwybodaeth breifat ynghylch prosesau disgyblu mewnol y blaid yn fater difrifol iawn.

“Mae’n ddealladwy fod rhai unigolion yn siomedig gyda chanlyniad y broses ddewis, ac mae hyn yn digwydd ym mhob plaid. Rydym yn hyderus y bydd y materion hyn yn cael eu datrys yn unol â’n prosesau arferol.”

“Mater mewnol” meddai’r Cynghorydd Sean Rees

“Mae hwn yn fater mewnol i’r Blaid ac felly does gen i ddim sylw pellach i wneud ar yr adeg hon,” meddai Sean Rees, swyddog y wasg Plaid Cymru yn Llanelli a gafodd ei ddewis yn ymgeisydd gan y gangen leol, ond nid yn ganolog.

“Dw i wastad wedi gweithio er budd ein plaid yn lleol ac yn genedlaethol. Fy mlaenoriaeth nawr yw’r cymunedau y mae gennyf i’r fraint i’w cynrychioli fel y Cynghorydd Cymunedol newydd yn nhref Llanelli.”