Mae cantores bop enwoca’ Cymru wedi dweud ei bod wedi diodde’ ymosodiad rhywiol yn ôl yn yr 1970au.

Roedd Heather Jones wedi penderfynu siarad wrth y BBC yn sgil y sgandal am y cynhyrchydd ffilmiau, Harvey Weinstein, yn Hollywood.

Ond fe ddywedodd wrth Radio Cymru nad oedd yna neb tebyg i hwnnw yn y byd adloniant yng Nghymru yn y cyfnod.

‘Pwysig siarad’

Yn ôl Heather Jones, roedd yr ymosodiad wedi digwydd pan oedd hi yn ei 20au ac yn briod gyda’r canwr, Geraint Jarman.

Ar y pryd, meddai, roedd y digwyddiad wedi effeithio’n ddrwg arni a hithau’n ofni mynd allan gyda ffrindiau.

Roedd hi’n bwysig siarad, meddai – roedd diffyg siarad am bynciau o’r fath yn broblem yn y 70au.