Mae cyfrif Twitter ‘Yr Awr Gymraeg’ wedi cyhoeddi y bydd yn dod i ben ar ei ben-blwydd yn bump oed, ar Dachwedd 15, eleni.

Mae’r cyfrif wedi bod yn cynnal awr o hyrwyddo a marchnata yn y Gymraeg rhwng 8 a 9 bob nos Fercher ers 2012.

Yn ystod yr awr, mae modd i fusnesau a chyrff wneud cais am aildrydariad trwy ychwanegu yr hashtag #yagym i’w hysbyseb, ac mae’r cyfrif yn annog pawb i gymryd rhan.

Bellach mae gan Yr Awr Gymraeg bron i 10,000 o ddilynwyr ar Twitter, yn ogystal â phresenoldeb ar wefan Facebook lle mae dros 1,300 yn ei ddilyn a’i ‘hoffi’.

Mae nifer o unigolion a sefydliadau wnaeth elwa o’r awr wedi troi at Twitter i leisio eu tristwch gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin yn nodi “gobeithio nad dyma ddiwedd yr #yagym”.