Fe fydd 300 o swyddi newydd yn cael eu creu yn ardal Wrecsam wrth i brif gynhyrchydd paneli haul Ewrop ehangu ei ffatri yno.

Fe fydd gwaith cwmni Sharp yn Llai yn cynhyrchu 3,000 yn rhagor o baneli bob dydd o ganlyniad i’r buddsoddiad – gan ddod yn agos at ddyblu’r lefel cynhyrchu presennol.

Fe fydd nifer y gweithwyr yn codi i 1,100 ac, yn ôl y cwmni, mae’n golygu bod awydd am ragor o baneli haul yng ngwledydd Prydain.

Gobaith am dwf

“Mae yna obaith am dwf mawr yn y sector hwn, gan fynd yn groes i’r duedd yn yr economi ehangach,” meddai Andrew Lee, pennaeth gwerthiant rhyngwladol i Sharp.

Roedd cynllun y Llywodraeth i dalu i bobol am gynhyrchu trydan gwyrdd i’r Grid Cenedlaethol wedi rhoi “hwb mawr” i’r diwydiant, meddai.

Fe gafodd y newyddion ei groesawu hefyd gan Chris Huhne, yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd. “Dyma newyddion ardderchog i’r diwydiant ynni haul ac i Sharp, sy’n dangos bod twf gwyrdd yn rhan hanfodol o’r adferiad economaidd.”

Cefndir

Y gwaith ger Wrecsam oedd ffatri gynta’ Sharp yn Ewrop a hi yw un o rai mwya’ blaengar y cwmni o ran technoleg.

Fe ddechreuodd gynhyrchu paneli haul yn 2004.