Mae bwriad Llywodraeth Cymru i orfodi cynghorau sir i gydweithio ac uno’r Adrannau Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yn peryglu dyfodol y Gymraeg yn ei chadarnle.

Dyna rybudd y mudiad Cymuned wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed eleni.

Yn ôl y mudiad, mi fydd gorfodi Cyngor Gwynedd – yr unig gyngor sir yng Nghymru sy’n gwneud ei waith mewnol drwy gyfrwng y Gymraeg – i gydweithio gyda chynghorau eraill yn y gogledd yn arwain at erydu’r Gymraeg ym maes llywodraeth leol.

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu bwriad i greu chwe chorff rhanbarthol yng Nghymru i ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg.

Fe fyddai creu corff rhanbarthol i ogledd Cymru yn codi cwestiynau am y polisi iaith gan fod amrywiaethau yn y gwasanaethau Cymraeg ar hyn o bryd rhwng cyngor Gwynedd yn y gogledd orllewin a Sir y Fflint yn y gogledd ddwyrain.

“Mae uno adrannau cynghorau sir yn peryglu dyfodol yr iaith Gymraeg trwy fygwth polisi iaith Cyngor Gwynedd,” meddai Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned.

“Os bydd rhaid i adrannau o fewn Cyngor Gwynedd gydweithio gyda chynghorau eraill trwy gyfrwng y Saesneg, caiff y gwaith arbennig i normaleiddio’r Gymraeg fel iaith gwaith Cyngor Gwynedd ei danseilio’n ddifrifol.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 8 Medi