Cylchgrawn Golwg
Mae’r Post Brenhinol wedi ymddiheuro i deulu o Gaerdydd ar ôl i rifyn y cylchgrawn Golwg gyrraedd yn hwyr gyda neges yn mynnu y dylid defnyddio’r cyfeiriad Saesneg.

Pan gyrhaeddodd Golwg cartref Lusa Glyn a Ion Thomas ym Mhontcanna, Caerdydd roedd neges ar y gorchudd plastig yn dweud ‘Return to sender – Use English if you want your post delivered’.

“Ro’n i’n geg agored a’r awgrym ‘use English or else’ neu ddim cael eich post. Ro’n i’n ei weld e ychydig yn fygythiol,” meddai Lusa Glyn, athrawes yn ysgol Glantaf Caerdydd, a gysylltodd â llinell gymorth Gymraeg y Post Brenhinol i wneud ei chwyn.

“Mae’n gam yn ôl rhyw 30 o flynyddoedd. Bod rhywun yn coleddu’r fath agwedd at y Gymraeg yng Nghymru. Roedd yn siom yn fwy nad dim.”

Ar ôl tanysgrifio ers blynyddoedd i’r cylchgrawn, dyma’r tro cyntaf i neges o’r fath gael ei hysgrifennu ar yr amlen er bod y cod post yn amlwg ar y cyfeiriad.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 8 Medi