Prifysgol Aberystwyth
Mae rhai o fyfyrwyr neuaddau Prifysgol Aberystwyth wedi cael gwybod y bydd rhaid iddyn nhw rannu gwelyau bync eleni am nad oes digon o le i bawb.
Mae myfyrwyr wedi heidio i’r prifysgolion eleni er mwyn osgoi’r cynnydd mewn ffioedd dysgu o fis Medi nesaf ymlaen.
Ond mae myfyrwyr Aberystwyth wedi derbyn e-bost yn dweud fod y cynnydd mewn myfyrwyr eleni yn golygu y bydd rhaid i rai, nid yn unig rannu ystafell, ond hefyd gwely bync.
Bydd gwely bync ym Mhentre Jane Morgan a neuaddau Glan y Môr yn costio £55 y pen yr wythnos, ac ystafelloedd bync ym Mhenbryn a Phantycelyn yn costio £70 y pen yr wythnos.
Mewn llythyr at y myfyrwyr mae’r Swyddfa Llety yn dweud: “Hoffem gynnig y cyfle i chi gael dewis math newydd o lety rhatach ynghyd â’r cyfle i newid eich meddwl heb gost ychwanegol”.
“Gan fod y Brifysgol wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn recriwtio myfyrwyr eleni, a chan gydnabod bod llety yn Aberystwyth yn brin, rydym ni nawr yn gallu cynnig math ychwanegol o lety – ystafelloedd bync.
“Os ydych chi’n symud o gartref am y tro cyntaf, efallai y byddwch yn hynod o gyffrous neu ychydig bach yn betrus. Efallai hefyd y byddwch yn poeni am y costau sy’n gysylltiedig â mynd i’r brifysgol – gallai’r ystafelloedd hyn fod yn fodd i chi wneud ffrindiau’n gyflym ac arbed arian hefyd.
“Mae ystafelloedd bync ar gael yn nifer o breswylfeydd y Brifysgol, ac yn drefniant dros dro fydd yn caniatáu i chi rannu ystafell gyda myfyriwr arall, a thrwy wneud hyn, elwa drwy dalu rhent is.”
Dywedodd myfyrwyr wrth Golwg 360 fod yr e-bost yn peri gofid iddyn nhw, ychydig wythnosau cyn dechrau wythnos y glas ar 23 Medi.
‘‘Pam bod angen gwasgu cymaint o bobl mewn i’r neuaddau, pan fydd cymaint o fyfyrwyr y flwyddyn nesaf yn cael trafferth i chwilio am dŷ?” meddai Carys Jones sy’n fyfyriwr yn y brifysgol.
“Mae aros mewn neuadd breswyl yn rhatach wrth gwrs, ac yn ei gwneud hi’n rhwyddach i fyfyrwyr ddod i nabod ei gilydd yn well.
“Ond dyw disgwyl i bawb rannu gwely bwnc ddim yn deg!”
Dywedodd Adrian Morgan, cyn-warden yn neuadd Pantycelyn, ei fod yn disgwyl y bydd pethau’n dechrau gwella wrth i’r flwyddyn fynd rhagddo.
“Y gwir amdani yw bod y brifysgol yn awyddus i ofalu bod pob ‘stafell yn llawn. Ond am amryw o resymau mae nifer o fyfyrwyr yn gadael ar ôl ychydig wythnosau,” meddai.
“Efallai eu bod nhw’n anhapus ynglŷn â’r cwrs, neu yn penderfynu nad y brifysgol yw’r lle cywir iddynt.
“Felly mae’r brifysgol yn cymryd gormod o fyfyrwyr ar ddechrau’r flwyddyn, fel bod eu hystafelloedd yn dal i fod yn llawn ar ôl i rai adael.”