Fe fydd y drwydded ar gyfer radio yng Ngheredigion yn cael ei hysbysebu’n agored ym mhen y mis.

Fe gyhoeddodd Ofcom heddiw na fydd perchnogion gorsaf Radio Ceredigion yn gofyn am gael adnewyddu eu trwydded yn otomatig.

O ganlyniad, fe fydd hysbyseb yn ymddangos ar 5 Hydref yn gofyn am geisiadau ar gyfer cynnal y gwasanaeth ar gyfer 72,000 o wrandawyr yng ngorllewin Cymru.

Fe fydd gan ymgeiswyr dri mis i ymateb, ond fydd yna ddim cyfyngiadau o ran iaith y gwasanaeth yn y dyfodol. Fe fydd yn gystadleuaeth agored gyda’r ymgeiswyr yn dewis polisi rhaglenni ac iaith.

Eisiau llai o Gymraeg

Mae’r gystadleuaeth yn digwydd oherwydd bod perchnogion Radio Ceredigion, Town and Country, yn anfodlon ar amodau’r drwydded bresennol, sy’n dweud bod rhaid i 50% o’r siarad ac 20% o’r gerddoriaeth fod yn Gymraeg.

Pe baen nhw’n fodlon ar hynny, fe fydden nhw wedi cael trwydded otomatig am ddeng mlynedd arall. Roedden nhw wedi gofyn i Ofcom am gael gostwng y gerddoriaeth Gymraeg i 10%.

Mae yna ddadlau wedi bod ers i Town and Country brynu’r gwasanaeth a gafodd ei sefydlu gan wirfoddolwyr lleol gyda darpariaeth ddwyieithog a lle amlwg i’r Gymraeg.

Meini prawf

Fe fydd yna feini prawf ar gyfer y gystadleuaeth, gan gynnwys y gallu ariannol i gynnal y gwasanaeth, yr angen i ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol, prawf o’r galw am wasanaeth o’r fath a phrawf ei fod yn darparu ar gyfer y gynulleidfa leol.

Y maen prawf hwnnw fydd yn berthnasol o ran iaith, er fod Ofcom yn mynnu – yn groes i farn Bwrdd yr Iaith – nad oes ganddyn nhw unrhyw hawl i osod amodau ieithyddol.

Fe fydd rhaid i bob ymgeisydd dalu ffi o £5,000 wrth wneud cais.