Ysgol Gynradd Tan y Lan
Bydd yr ysgol gynradd cyntaf i agor yn Abertawe ers bron i ddegawd yn derbyn ei ddisgyblion cyntaf y bore ma.

Agorwyd Ysgol Gynradd Tan y Lan er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Treforys.

Dyma’r ysgol gyntaf Cymraeg i agor yn y ddinas ers Ysgol Gynradd Llwyndderw yn 2002.

Mae’r ysgol newydd ar gyn safle Ysgol Feithrin y Graig sy’n wag yn dilyn agor Ysgol Gynradd Pentre’r Graig.

Bydd yr 20 disgybl cyntaf yn cyrraedd yr ysgol heddiw a 15 arall yn ymuno yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd y Brifathrawes newydd, Catrin Pugh Jones, eu bod nhw’n “edrych ymlaen at ddiwrnod cyntaf yr ysgol”.

“Rydyn ni’n cymryd disgyblion meithrin a dosbarth derbyn yn unig eleni. Wrth iddyn nhw dyfu fe fydd gan yr ysgol ragor o ddosbarthiadau.

“Rydw i’n edrych ymlaen at her gyffrous datblygu ysgol newydd a gweithio â staff newydd, disgyblion a rhieni er mwyn creu ysgol Gymraeg bywiog a chyfeillgar.”

Mae Rachel Collins hefyd yn athrawes, a Yvonne Davies yn athrawes gynorthwyol, yn yr ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Mike Day, sydd â chyfrifoldeb dros addysg ar Gyngor Abertawe, fod agor yr ysgol yn rhan o’u hymrwymiad i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol am ragor o addysg Gymraeg yn y ddinas.

“Mae agor Ysgol Gynradd Tan y Lan yn gam cyntaf tuag at gwrdd â’r galw yn ardal Treforys,” meddai.

“Mae’n gyfle gwych i blant Treforys gael addysg Gymraeg ar eu stepen drws.”