Chris Bryant
Mae academydd o Gymru wedi beirniadu Aelod Seneddol gan ddweud ei fod yn trin casineb at bobol hoyw a’r iaith Gymraeg yn wahanol.

Roedd yr Aelod Seneddol, Chris Bryant, wedi wfftio erthygl ym mhapur newydd y Daily Mail fis diwethaf oedd yn cyfeirio at y Gymraeg fel ‘iaith mwnci’.

Beirniadodd Aelod Seneddol arall, Jonathan Edwards, am gyfeirio’r mater at yr heddlu gan ddweud na ddylai siaradwyr yr iaith “achwyn” am ymosodiadau o’r fath.

Ond dywedodd Dr Simon Brooks, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd, fod Chris Bryant yn ymdrin â chasineb at y Gymraeg a homoffobia mewn modd hollol wahanol.

Mae Chris Bryant, AS y Rhondda, yn ymgyrchydd brwd o blaid mudiad hawliau hoyw Stonewall Cymru.

Er bod Simon Brooks yn pwysleisio ei fod yn “edmygu’r gwaith y mae Chris Bryant yn wneud yn gwrthwynebu homoffobia”  mae’r  academydd yn dadlau “na ddylai ddewis a dethol o ran yr agenda cydraddoldeb” ac y dylai’r AS ddangos yr un agwedd at yr iaith Gymraeg.

‘Anghyson’

“Rydw i’n edmygu’r gwaith y mae’n ei wneud wrth wrthwynebu homoffobia,” meddai Simon Brooks wrth Golwg360.

“Beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl am y dyn, mae’n rhaid edmygu hynny, ac mae’r ffordd y mae wedi cael ei drin gan y wasg dabloid yn gywilyddus.

“Mae Chris Bryant yn cymryd troseddau casineb yn ymwneud a homoffobia o ddifrif ac yn barod i fynd at yr heddlu, sy’n hollol gywir wrth gwrs.

“Ond beth sy’n fy ngwylltio i yw, pan gododd y mater yma am ‘iaith mwnci’, fe fu’n ddi-hid iawn wrth ymateb i hynny yn yr Independent gan ddweud mai’r cwbl y dylai’r Cymry ei wneud yw chwerthin am y peth.

“Dydw i ddim yn meddwl bod rhywun yn gallu dewis a dethol o ran yr agenda cydraddoldeb. Dw i’n meddwl bod cydraddoldeb yn gweithio’n well pan ydych chi’n derbyn  bod rhai pethau’n perthyn i bawb, boed yn rhywioldeb, anabledd, iaith, neu hil.

“Mae’n fy nharo i’n od fod dyn sydd yn amddiffyn un set o hawliau yn chwyrn yn gwneud hwyl ar ben pobl sy’n ymgyrchu mewn maes arall.

“Beth sy’n drist yw ei fod yn gwybod yn iawn sut beth yw cael y wasg yn ymgyrchu yn erbyn ei leiafrif, am mai dyna yw ei brofiad ef a phrofiad y gymuned hoyw dros y blynyddoedd.

“Yna mae’n dymuno i grŵp lleiafrifol arall drin yr un peth fel jôc. Mae wedi fy ngwylltio. Dw i’n gweld y dyn yn ofnadwy o anghyson fel yna.”

‘Dwli gwirion’

Dywedodd Chris Bryant nad oedd modd cymharu beth gafodd ei ysgrifennu yn y Daily Mail â’r homoffobia y mae ef ac eraill wedi ei ddioddef dros y blynyddoedd.

“Dwli gwirion oedd darn Roger Lewis, oedd yn llawn o wallau ffeithiol a  bron iawn yn fwriadol sarhaus,” meddai Chris Bryant wrth Golwg 360.

“Mae erthyglau yn y Daily Mail yn aml yn cynnwys yr holl elfennau rheini.

“Y perygl â ymateb Jonathan Edwards yn fy marn i oedd ei fod yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i erthygl dwp fyddai’n well ei hanwybyddu.

“Ar y llaw arall, mae homoffobia yn lladd. Mae dynion hoyw ifanc chwe gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad, ac mae bwlio homoffobaidd yn gyffredin mewn nifer o ysgolion.

“Yn y ddau achos dw i’n credu mai’r ffordd gorau yw ymddwyn mewn modd sy’n dangos fod y feirniadaeth yn anghywir, yn hytrach na chysylltu â’r heddlu.”

Malan Vaughan Wilkinson